Mae Israel wedi lladd un o arweinyddion y grwp Islamic Jihad a dau o’i feibion, mewn ymosodiad o’r awyr ar 30 o dai yn Llain Gaza.

Mae ymladdwyr ar y ddwy ochr wedi cadarnhau fod cwffio dwys wedi bod yng ngogledd ac yng nghanolbarth y diriogaeth heddiw.

Mae Israel yn honni iddyn nhw daro 45 o dargedau yn Gaza, yn cynnwys yr hyn maen nhw’n ei alw’n “bwynt rheoli milwrol Hamas”. Mae gwrthryfelwyr yn Gaza, ar y llaw arall, wedi bod yn tanio dwsinau o rocedi i gyfeiriad Israel, gydag un o’r rheiny’n taro ty gwag.

Ar 18fed dydd yr ymladd, mae disgwyl i gabinet diogelwch Israel gyfarfod yn ddiweddarach heddiw i ystyried cynigion rhyngwladol am gadoediad.