Mae awyren cwmni Air Algerie o Burkina Faso i Algiers wedi diflannu oddi ar sgriniau radar, yn ôl asiantaeth newyddion swyddogol Algeria.

Mae’n debyg bod swyddogion wedi colli cysylltiad gyda’r awyren tua 50 munud ar ol iddi adael y maes awyr yn ystod oriau man dydd Iau.

Roedd 116 o bobl ar fwrdd yr awyren.

Roedd awyren AH5017 yn teithio o brifddinas  Burkina Faso, Ouagadougou i Algiers.

Rhagor i ddilyn…