John Kerry
Mae John Kerry wedi hedfan i brif faes awyr Israel heddiw, er gwaethaf gwaharddiad yr Unol Daleithiau ar deithiau yno, mewn ymdrech i sicrhau cadoediad yn Llain Gaza.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd Gwladol America gwrdd â Phrif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu, Arlywydd Palestina Mahmoud Abbas, ac ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd unedig Ban Ki-moon ar gyfer trafodaethau heddiw.

Mae John Kerry yn ceisio sicrhau cadoediad rhwng Israel a’r grŵp milwriaethus Hamas sy’n rheoli Gaza ond mae’n ymddangos nad oes llawer o ddatblygiad wedi bod yn y trafodaethau hyd yn hyn.

Roedd Kerry wedi hedfan i Tel Aviv ddiwrnod ar ôl i’r Weinyddiaeth Hedfan Ffederal (FAA) wahardd teithiau awyren i faes awyr Ben-Gurion. Daeth y gwaharddiad 24 awr i rym ar ôl i roced gafodd ei danio gan Hamas lanio o fewn milltir i’r maes awyr ddoe.

Fe fydd yr FAA yn ail-asesu’r gwaharddiad yn ddiweddarach heddiw.

Ond mae swyddogion yn Israel wedi dweud nad oes angen cyflwyno’r  gwaharddiad.

Mae mwy na 630 o Balestiniaid a 30 o Israeliaid wedi eu lladd ers i’r trais yn Gaza ddechrau ar 8 Gorffennaf.

Mae Israel yn dweud bod eu lluoedd wedi lladd cannoedd o ddynion arfog Hamas, ond yn ôl swyddogion yn Gaza roedd y rhan fwyaf yn bobl gyffredin, nifer ohonyn nhw’n blant.