Y difrod yn Gaza
Mae 501 o Balestiniaid wedi marw yn ystod y gwrthdaro yn Gaza, yn ôl swyddogion iechyd yno.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn y diwrnod mwyaf gwaedlyd o ymladd hyd yma yn yr ymgyrch.

Meddai Ashraf al-Kidra, swyddog o weinidogaeth iechyd Gaza, bod gweithwyr achub wrthi’n tynnu cyrff o gartref rhywun a gafodd ei fomio gan luoedd awyr Israel yn ystod y nos.

Dywedodd bod 20 o gyrff wedi cael eu darganfod yn yr adeilad a bod dau wedi cael eu tynnu allan yn fyw.

Ac yn dilyn sesiwn brys yn hwyr ddoe, mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi mynegi “pryder difrifol” am nifer y bobl sydd wedi cael eu lladd yn Gaza.

Mae 20 o filwyr o Israel hefyd wedi eu lladd, gan gynnwys 13 yn ystod ymladd ffyrnig ddoe.