Cafodd merch fach ei hachub o’r môr yng Ngogledd Cymru ddoe.

Cafodd y ferch ei thynnu o’r dŵr yn Aberffraw ar Ynys Môn, gan rywun oedd yn digwydd mynd heibio.

Rhoddodd y person gusan bywyd iddi cyn iddi gael ei hedfan gan hofrennydd i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Mae’n debyg bod y ferch wedi mynd i mewn i’r dŵr pan nad oedd ei rhieni’n gwylio.