Rebecca Evans
Wrth i’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd agor ei drysau i’r cyhoedd heddiw, mae llefarydd amaeth Plaid Cymru wedi ysgrifennu llythyr agored at ddirprwy weinidog amaeth newydd Llywodraeth Cymru.
Yn y llythyr, mae Llŷr Gruffydd AC yn annog Rebecca Evans, y dirprwy weinidog newydd gyda chyfrifoldeb am amaeth a physgodfeydd yng Nghymru, i ddangos cefnogaeth i’r diwydiant amaeth.
Mae’r llythyr hefyd yn amlinellu meysydd sydd, ym marn Plaid Cymru, angen ystyriaeth frys gan ei hadran ac a ddylai gael blaenoriaeth dros y misoedd i ddod.
Cafodd Rebecca Evans ei dyrchafu i’r swydd ar ôl i’r cyn weinidog amaeth Alun Davies AC, gael ei ddiswyddo am ofyn am wybodaeth breifat am aelodau pleidiau eraill y Cynulliad.
Blaenoriaethau
Yn ôl Llŷr Gruffydd, mae incwm ffermydd wedi gostwng 44% yn y flwyddyn ddiwethaf yn dilyn torri taliadau uniongyrchol i ffermwyr gan Lywodraeth Cymru.
Mae’n dweud bod problemau hefyd wedi bod yn y ffordd wnaeth Alun Davies ddelio gyda’r broblem o’r diciâu mewn gwartheg.
Oherwydd hynny, mae Llŷr Gruffydd yn galw ar y dirprwy weinidog newydd i wrando ar bryderon ffermwyr, milfeddygon, priswyr ac eraill, a gweithredu yn unol â hynny.
Ychwanegodd Llŷr Gruffydd hefyd ei bryderon am gwymp ym mhris cig oen, cig eidion a llaeth:
Meddai’r AC yn y llythyr: “Bu pris cig eidion a llaeth yn broblem gyson i ffermwyr Cymru, ac yn fwy diweddar, cwympo wnaeth pris cig oen hefyd.
“Mae sicrhau fod ffermwyr yn derbyn pris teg am eu cynnyrch yn hanfodol i’r sector amaethyddol ac i’r sector bwyd yn ei gyfanrwydd.
“Cafodd ffermwyr Cymru amser arbennig o galed dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi gweld eu hincwm yn gostwng o 44% llynedd.
“Mae’n bwysig fod y dirprwy weinidog yn gweithredu rhag blaen ar y materion hyn sydd yn cael cymaint o effaith ar hyfywedd y sector, ac yr wyf yn wir yn gobeithio y bydd yn agored i weithio gyda’r gwrthbleidiau er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn cael eu cynnal yn briodol trwy gyfnod sydd yn gynyddol anodd i ffermwyr Cymru.”
Mae disgwyl i Rebecca Evans ddweud yn y sioe heddiw na ddylai’r diwydiant amaeth fod mor ddibynnol ar grantiau.
Bydd y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn dechrau heddiw ac yn dod i ben dydd Iau.