Mae gwrthryfelwyr wedi dod o hyd i flychau cofnodi yr awyren Malaysia Airlines a gafodd ei saethu o’r awyr uwchben Yr Wcrain ddydd Iau.
Fe fydd y bocsus duon yn cael eu trosglwyddo i’r corff sy’n arolygu hedfan ar draws y byd, yr ICAO, meddai Alexander Borodai, arweinydd grwp o wrthryfelwyr yn y wlad.
Fe ddywedodd hefyd y bydd y cyrff sydd wedi eu darganfod ar safle’r ddamwain yn nwyrain yr Wcrain, yn cael eu cadw mewn oergelloedd mewn gorsaf drenau yn nhre’ Torez, nes bod awdurdodau rhyngwladol yn cyrraedd i wneud ymholiadau.
Fe laddwyd 298 0 deithwyr ac aelodau’r criw, pan blymiodd yr awyren i’r ddaear.