Mae Comisiynydd newydd y Comisiwn Ewropeaidd yn “cydymdeimlo” gyda’r rhai sy’n cefnogi annibyniaeth i’r Alban, meddai erthygl ym mhapur newydd Scotsman on Sunday.
Mae cefndir Jean-Claude Juncker fel gwleidydd o genedl fach Lwcsembwrg wedi ffurfio ei farn i’r cyfeiriad hwn, meddai.
Ac, er bod yr ymgyrch ‘Na’ yn dweud y byddai Alban annibynnol yn debygol o gael ei heithrio o Ewrop, mae Scotland on Sunday yn honni fod y gyfundrefn yn annhebygol o wneud hynny.
Meddai’r erthygl, fe fyddai aelodaeth Alban annibynnol yn cael ei ystyried fel “achos arbennig” i achosion gwledydd y Balcan sy’n awyddus i ymuno efo’r Gymuned Ewropeaidd.
“Fyddai Junker ddim am i Alban annibynnol gael ei chadw allan o Ewrop,” meddai uchel-swyddog o Ewrop wrth y papur.
“Fe fyddai ganddo gydymdeimlad, fel un sy’n hanu o genedl fechan, ac fel un sy’n deall y rhwystrau sy’n cael eu gosod yn ffordd y gwledydd bychain gan wledydd mawr.”