Mae ardal o Ddinas Gaza wedi cael ei bombardio gan danciau, wrth i Israel barhau ei hymgyrch yn erbyn Hamas. Mae cannoedd o bobol wedi gadael eu cartrefi mewn panig,

Fe gafodd wyth o bobol eu lladd yn ardal Shijaiyah o Ddinas Gaza cyn toriad gwawr heddiw, yn cynnwys mab, merch-yng-nghyfraith a dau o wyrion bach un o arweinwyr Hamas.

Fe gafodd dwsinau o bobol wedi’u hanafu eu cludo ar frys i Ysbyty Shifa yng nghanol y ddinas.

Fe ddaeth yr ymladd wrth i bennaeth y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon fynd i Qatar i geisio trafod cadoediad.