Mae cwmni Malaysia Airlines wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i hediad rhif 17 – sef rhif yr awyren a gafodd ei saethu i’r ddaear dros Yr Wcrain yr wythnos ddiwetha’.

Mewn datganiad gan y cwmni heddiw, fydd Malaysia Airlines ddim bellach yn defnyddio MH17 i adnadbod unrhyw un o’i hediadau o Amsterdam i Kuala Lumpur.

“R’yn ni’n gwneud hyn o barch i’r criw ac i’r teithwyr,” meddai’r datganiad, gan ddweud y byddan nhw, yn hytrach, yn galw’r ffleit yn MH19.