Mae disgwyl blwyddyn arall o wneud yn well nag erioed wrth i’r Sioe Fawr agor yn Llanelwedd fory.

Eisoes, mae nifer y cystadleuwyr yn fwy nag erioed o’r blaen, gyda mwy nag 8,000 yn mentro – cynnydd o tua 670 ar y llynedd.

Gyda’r tywydd braf yn golygu bod y rhan fwya’ o ffermwyr wedi cael eu cynhaeaf gwair a silwair, mae disgwyl tyrfaoedd anferth hefyd.

Fe gafodd y record ei dorri y llynedd, gyda bron 242,000 o bobol yn mynd i’r maes tros y pedwar diwrnod.

Ond, yn y gorffennol, mae’r trefnwyr wedi cydnabod nad ydyn nhw eisiau denu llawer rhagor o bobol, rhag i’r maes fynd yn rhy llawn.

Di-wifr, di-dâl

Fe fydd un datblygiad pwysig eleni – gyda gwasanaeth wi-fi yn rhad ac am ddim o chwech safle ar y maes.

“Gyda mwy a mwy o gyrff yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac yn dibynnu ar lwyfannau digidol i gyfathrebu, mae’n hanfodol bod y gymdeithas a’r sioe yn datblygu ac yn manteisio ar y cyfleoedd sy’n dod o gael rhyngrwyd cyflym iawn ar faes y sioe,” meddai’r Prif Weithredwr, Steve Hughson.

Mae App dwyieithog ar gael i roi gwybod beth sy’n digwydd bob dydd.