Y lluniau cynta o'r trychineb (PA-AP Photo - Andrei Kashtanov)
Mae newyddiadurwyr wedi cadarnhau honiadau Llywodraeth yr Wcrain fod gwrthryfelwyr arfog wedi symud cyrff o’r fan lle cwymodd awyren o Malaysia i’r ddaear.

Yn ôl gohebwyr Associated Press, roedden nhw wedi gweld y milwyr yn rhoi cyrff mewn bagiau ar lorïau a’u gyrru i ffwrdd.

Yn ôl Llywodraeth yr Wcrain, does dim gwybodaeth ble mae’r cyrff wedi mynd, wrth i arbenigwyr rhyngwladol geisio archwilio’r safle yn nwyrain y wlad.

Maen nhw’n ceisio cadarnhau beth oedd wedi achosi’r trychineb pan gafodd 298 o bobol eu lladd.

Saethu o’r awyr

Y gred ar hyn o bryd yw ei bod wedi cael ei saethu wrth iddi hedfan tros ddwyrain yr Wcrain, sydd n nwylo gwrthryfelwyr Rwsiaidd.

Mae’r rhan fwya’ o wledydd y Gorllewin yn beio’r gwrthryfelwyr am y saethu, er bod y cyfryngau yn Rwsia yn rhoi’r bai ar Lywodraeth yr Wcrain.

Roedd gweithwyr achub yn dweud bod y gwrthryfelwyr arfog wedi eu gorfodi i drosglwyddo’r cyrff, ond roedd cwynion wedi bod hefyd am fod y