Mae saith o bobol wedi’u lladd wedi i ddynion arfog ymosod ar fws ar arfordir Kenya.

Mae’r Groes Goch yn y wlad wedi cadarnhau i’r ymosodiad ddigwydd yn Corner Mbaya, dair milltir o’r dref arfordirol, Witu yn sir Lamu.

Roedd dau o’r rheiny gafodd eu lladd yn swyddogion dioglewch, a phobol gyffredin oedd y pump arall.

Mae’r awdurdodau’n credu fod y mwyafrif o’r teithwyr eraill ar y bws 52-sedd, wedi mynd i guddio mewn coedwir gyfagos.

Mae gwrthryfelwyr al-Shabab o Somalia, sy’n gweithio gydag Al Qaida, wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.