Mae llys apêl yn yr Eidal wedi cael cyn-brif weinidog y wlad yn ddieuog o honiadau ei fod wedi talu am ryw gyda phutain o dan oed.
Roedd Silvio Berlusconi wedi’i gyhuddo o gael rhyw gyda’r ferch mewn parti ‘bunga bunga’ yn ei gartref moethus, a defnyddio’i ddylanwad i guddio’r achos wedyn.
Fe gafodd ddedfryd o saith mlynedd o garchar y llynedd a gwaharddiad o swyddi gwleidyddol gan lys y llynedd, ond mae’r dyfarniad hwnnw bellach wedi’i wyrdroi.
Ar hyn o bryd mae Berlusconi yn gweithio mewn cartref dioddefwyr Alzheimer’s fel rhan o ddedfryd gwasanaeth cymunedol a gafodd am drosedd wahanol, sef twyllo ar drethi.
Mae ganddo waharddiad o swyddi gwleidyddol am ddwy flynedd oherwydd yr achos hwnnw, ond mae’r gŵr 77 oed yn parhau’n ddylanwadol fel pennaeth plaid Forza Italia.
Mae Berlusconi hefyd yn wynebu dwsinau rhagor o achosion llys yn ei erbyn, yn bennaf am ei weithredoedd busnes.