Dinistr yn Gaza adeg yr ymosodiad diwetha (Marius Arnesen CCA 3.0)
Mae miloedd o filwyr Israel a thanciau wedi ymosod ar dir y Palestiniaid yn Gaza.

Yn ôl tystion, roedd tanciau, llongau rhyfel ac awyrennau’n tanio’n gyson wrth i’r Israeliaid geisio chwalu safleoedd tanio rocedi Hamas, y mudiad sy’n rheoli Gaza.

Maen nhw hefyd eisiau dinistrio twneli sydd, medden nhw, yn cael eu defnyddio gan Hamaz i fynd i mewn i diriogaeth Israel.

Yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, mae’r Palesteiniaid yn dweud bod 39 o’u pobol wedi eu lladd dros nos.

‘Talu’r pris’

Fe gafodd un milwr Israelaidd ei ladd yn yr ymosodiadau sydd, meddai Israel, yn “hanfodol” i atal ymosodiadau arnyn nhw.

Ond mae un o arweinwyr Hamas wedi rhybuddio y bydd Israel yn talu’n ddrud am yr ymosodiadau.

“Mae Hamas yn barod am wrthdaro,” meddai Fawzi Barhoum.

Y cefndir

Dyma unfed diwrnod ar ddeg yr ymladd diweddara’ rhwng Hamas ac Israel ac, yn ôl asiantaethau newyddion y Gorllewin, mae mwy na 240 o bobol eisoes wedi eu lladd yn Gaza.

Mae’r rheiny’n cynnwys 14 o blant o dan 12 oed ac mae gwledydd eraill wedi condemnio Israel am ymateb yn “rhy eithafol” i ymosodiadau roced gan Hamas.

Yn ôl Al Jazeera mae ffigwr marwolaethau’r Palesteiniaid bellach yn 259, gyda 39 yn blant o bob oed, ac mae 1.900 wedi eu hanafu.

Dyma’r tro cynta ers 2009 i Israel ymosod yn llawn ar diriogaeth Gaza – bryd hynny, fe gafodd mwy na 1,400 o Balesteiniaid eu lladd.