Fe fydd cwmni Microsoft yn cael gwared a 18,000 o swyddi o fewn y flwyddyn nesaf, gyda 12,500 o’r swyddi hynny yn cael eu colli yn adran Nokia.

Dyma’r toriad mwyaf yn hanes y cwmni Americanaidd, ers i gyn-brif weithredwr Microsoft, Steve Ballmer, gyhoeddi bod 5,800 o bobol yn colli eu gwaith yn 2009.

Mewn e-bost i’r gweithwyr, dywedodd y prif weithredwr presennol, Satya Nadella, fod angen “esblygu’r sefydliad a’r diwydiant.”

“Y cam cyntaf i wneud hynny yw ad-drefnu ein gweithlu. O ystyried hynny, fe fyddwn ni’n lleihau maint y gweithlu o 18,000 o swyddi yn y flwyddyn nesaf.

“Ond mae’n bwysig cofio, tra ein bod ni’n cael gwared a swyddi mewn rhai adrannau, mi fyddwn ni’n ychwanegu mwy i adrannau eraill.”

Mae Microsoft wedi bod  yn ceisio cystadlu ag enwau mawr eraill fel Apple a Samsung yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi derbyn beirniadaeth am eu datblygiad technolegol diweddaraf, Windows 8.