Mae rocedi wedi cael eu tanio o Libanus at Israel wrth i’r gwrthdaro milwrol yn y Dwyrain Canol barhau am bedwerydd diwrnod.
Cafodd rhagor o daflegrau eu tanio o Gaza tuag Israel hefyd – ond mae adroddiadau bod bron i 100 o bobol wedi marw eisoes o achos ymosodiadau Israel ar y rhanbarth Balestinaidd.
Yn ôl llefarydd ar ran lluoedd arfog Israel fe laniodd rocedi o Libanus yn agos at ffin ogleddol y wlad, gyda swyddogion Libanus yn dweud bod ymladdwyr wedi tanio pedair roced a bod tua dwsin o ffrwydron Israelaidd wedi dod yn ôl i’w cyfeiriad hwy.
Mae gan grŵp milwrol Hezbollah bresenoldeb cryf yn ne Libanus ac maen nhw wedi ymladd yn erbyn yr Israeliaid nifer o weithiau.
Yn y cyfamser mae 98 o Balesteiniaid bellach wedi cael eu lladd yn Gaza oherwydd ymosodiadau Israel, yn ôl sianel deledu Al-Jazeera, gan gynnwys teulu o wyth ddoe.
Mae cannoedd hefyd wedi cael eu hanafu yn yr ymosodiadau, sydd, meddai Israel, yn ymateb i fygythiad ymladdwyr Hamas.
Rocedi o’r ddwy ochr
Mae’r ddwy ochr wedi bod yn tanio rocedi at ei gilydd yn ystod y dyddiau diwethaf, gydag ymladdwyr Gaza’n saethu dros 550 eisoes, a lluoedd arfog Israel yn dweud eu bod wedi taro dros 1,100 o dargedau yn Gaza.
Hyd yn hyn, does dim adroddiadau fod dim Israeliaid wedi marw yn yr ymosodiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran lluoedd arfog Israel eu bod yn gwneud eu gorau i daro safleoedd ble mae rocedi’n cael eu tanio o Gaza, ac nid pobol gyffredin.
Ac fe gyhuddodd Hamas o fod yn gyfrifol am y marwolaethau ar ochr y Palesteiniaid oherwydd eu bod nhw’n saethu eu rocedi o lefydd poblog, a defnyddio’r bobl hynny i “amddiffyn” eu harfau.
Obama’n cynnig helpu
Yn y cyfamser mae Arlywydd yr UDA Barack Obama wedi cynnig helpu i gynnal trafodaethau rhwng y ddwy ochr, gan alw ar Israel a Phalestina i wneud popeth y gallwn nhw i amddiffyn pobl gyffredin.
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban Ki-Moon hefyd wedi condemnio’r ymosodiadau, gan alw ar Israel i ddal yn ôl rhywfaint.