Oscar Pistorius yn y llys
Mae’r amddiffyniad yn achos Oscar Pistorius wedi gorffen cyflwyno’u hachos.
Dywedodd y cyfreithiwr Barry Roux nad oes ganddo dyst arall i’w alw i roi tystiolaeth ar ran Oscar Pistorius, 27, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gariad.
Mae Oscar Pistorius wedi cyfaddef saethu Reeva Steenkamp, 29, ond mae’n gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Mae’n honni ei fod yn credu bod lleidr yn ei gartref pan saethodd at ddrws yr ystafell ymolchi ym mis Chwefror y llynedd.
Mae’r erlyniad yn dweud ei fod wedi ei saethu hi’n fwriadol ar ôl ffrae.
Dywedodd y Barnwr Thokozile Masipa y bydd dadleuon cloi’r ddwy ochr yn cael eu clywed yn y llys yn Pretoria ar 7 ac 8 Awst.