Mae diffoddwyr tân yn ceisio rheoli fflamau ar hen safle Ysbyty Meddwl Dinbych y bore ‘ma.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r safle am 8 o’r gloch y bore ma ac mae diffoddwyr o’r Rhyl, Ruthun a’r Wyddgrug yn parhau i geisio diffodd y fflamau.
Nid yw’r heddlu wedi rhyddhau manylion am achos y tan hyd yn hyn.
Mae’r ysbyty wedi bod ynghau ers 1995.