Benjamin Netanyahu
Mae’r grŵp milwrol Islamaidd, Hamas, wedi dweud y bydd yn dial ar Israel am farwolaeth saith o’i aelodau mewn ymosodiad o’r awyr yn gynharach heddiw.

Mae’r grŵp yn honni bod y dynion wedi’u lladd ar ôl i Israel ymosod ar dwnnel sy’n cael ei ddefnyddio gan y milwriaethwyr.

Cafodd dau wrthryfelwr arall eu lladd mewn ymosodiad ar wahân.

Dywedodd Israel ei bod wedi cynnal ymosodiadau o’r awyr ar o leiaf “14 o safleoedd terfysgwyr” gan gynnwys safle yn Gaza dros nos, i ddial am y cynnydd diweddar yn yr ymosodiadau o Gaza.

Yn ôl lluoedd Israel roedd tua dwsin o daflegrau wedi cael eu tanio tuag at Israel o Gaza dros nos. Roedd un o’r taflegrau wedi anafu milwr.

Mae’r tensiynau rhwng Israel a Palestina wedi gwaethygu ers i dri llanc o Israel gael eu cipio a’u lladd yn y Lan Orllewin fis diwethaf.

Mae Israel wedi rhoi’r bai am eu marwolaethau ar Hamas ond nid yw’r grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb am eu lladd.

Wythnos diwethaf cafodd y Palestiniad Mohammed Abu Khdeir,  16 oed, o ddwyrain Jerwsalem ei gipio ger ei gartref a chafwyd hyd i’w weddillion mewn coedwig yn Jerwsalem yn fuan wedyn.

Credir ei fod wedi cael ei lofruddio er mwyn dial am farwolaeth y tri llanc o Israel.

Mae Israel wedi arestio chwech o Iddewon sy’n cael eu hamau o’r drosedd ac mae Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu wedi condemnio’r llofruddiaeth.