Arthur Jones sydd wedi mynd ar goll ar Ynys Creta
Mae teulu Cymro sydd wedi diflannu tra ar wyliau ar Ynys Creta yn ymchwilio i’r posibilrwydd ei fod wedi cael ei weld ar 25 Mehefin – sef y diwrnod yr oedd i fod i gyrraedd adref.
Roedd Arthur Jones, 73, o Ddinbych wedi cyrraedd yr ynys Roegaidd ar Fehefin 17.
Nid yw ei deulu wedi clywed ganddo ers 18 Mehefin a does neb wedi ei weld ers 19 Mehefin.
Mae Arthur Jones yn gyn filwr ac yn hoff o gerdded. Mae’n 5’6 o daldra, o faint canolig, gyda gwallt sydd wedi britho a mwstas.
Dywedodd Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, Chris Ruane, wrth y BBC bod rhywun yn honni eu bod wedi gweld Arthur Jones ar 25 Mehefin.
Yn ôl Chris Ruane, mi fydd y chwilio nawr yn digwydd yn ardal Bae Souda ar yr ynys sydd ddim yn bell o Cania lle’r oedd Arthur Jones yn aros.
Mae swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru wedi teithio i Ynys Creta i helpu efo’r chwilio amdano.