Er iddyn nhw gael eu gorchfygu yn un o’u cadarnleoedd allweddol ddoe, mae’r gwrthryfelwyr Rwsiaidd yn dal ati yn eu brwydr yn erbyn llywodraeth yr Wcrain.
Maen nhw bellach wedi ymgynnull yn Donetsk, mewn rhan o’r wlad ar y ffin â Rwsia sydd wedi datgan annibyniaeth yn enw Gweriniaeth Pobl Donetsk.
Llwyddodd byddin yr Wcrain i orfodi’r rebeliaid allan o Slovyansk, dinas o tua 100,000 o bobl sydd wedi bod yng nghanol y brwydro, ddoe.
Mae’r llwyddiant yn awgrymu y gallai’r llywodraeth fod yn ennill y dydd yn raddol yn erbyn y gwrthryfelwyr. Nid yw’n glir eto, fodd bynnag, os yw colli Slovyansk yn golygu bod y gwrthryfelwyr yn agos at gael eu gorchfygu’n llwyr.
Maen nhw’n dal i reoli’r adeilad gweinyddol rhanbarthol yn Donetsk, ond methiant fu eu hymgais i reoli’r maes awyr yno ym mis Mai.
Mewn cyfweliad ar sianel deledu Rwsiaidd, dywedodd Igor Girkin, gweinidog amddiffyn gweriniaeth Donetsk ei fod wedi gyrraedd Donetsk o Slovyansk.