Nicolas Sarkozy
Mae cyn Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac yn cael ei holi ynglŷn â honiadau o lygredd.

Dywedodd swyddog barnwrol Ffrainc heddiw fod Nicolas Sarkozy yn cael ei gadw yn y ddalfa yn Nanterre, ger Paris.

Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau yn Ffrainc mae Sarkozy cael ei holi fel rhan o ymchwiliad i’r modd y cafodd ei ymgyrch arlywyddol ei ariannu  yn 2007.

Canolbwynt yr achos yw os oedd ynad yn rhoi gwybodaeth fewnol i Nicolas Sarkozy a’i gyfreithiwr  am yr ymchwiliad.

Mae’r ddau yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Mae cyfreithiwr Nicolas Sarkozy, Thierry Herzog, hefyd yn cael ei gadw yn y ddalfa yn ôl adroddiadau yn  Ffrainc.

Mae ymchwilwyr yn seilio’r amheuon yn rhannol ar sgyrsiau ffôn gafodd eu recordio.

Roedd Nicolas Sarkozy yn ystyried dychwelyd i wleidyddiaeth ar ôl colli’r etholiadau Arlywyddol yn erbyn Francois Hollande yn 2012.