Baghdad
Mae Senedd newydd Irac wedi dod ynghyd am y tro cyntaf yn dilyn pwysau i geisio dewis prif weinidog newydd a fydd yn gallu mynd i’r afael a’r ansefydlogrwydd yn y wlad.

Roedd y prif glerigwr Shiaidd, Ayatollah Ali al-Sistani wedi annog y Senedd wythnos diwethaf i ddewis prif weinidog, arlywydd a llefarydd cyn y cyfarfod heddiw yn y gobaith o osgoi anghydfod a fyddai’n gallu ansefydlogi’r wlad ymhellach.

Ond mae’n ymddangos na fydd y broses yn un cyflym, gan fod y Prif Weinidog presennol Nouri al-Maliki, a enillodd y mwyafrif o’r seddi yn yr etholiadau ym mis Ebrill – yn anfodlon ildio’r awenau.

Mae’r gwrthryfel gan y grŵp eithafol Isis hefyd wedi taflu cysgod dros y trafodaethau.

Dywedodd cadeirydd y cyfarfod yn Baghdad, Mahdi al-Hafidh: “Mae nifer o faterion sydd angen eu trafod heddiw ond rwy’n credu mai’r peth pwysicaf yw ceisio adfer diogelwch a sefydlogrwydd yn Irac, sy’n hanfodol er mwyn diwygio a datblygu.”