Cairo, prifddinas Yr Aifft (Llun llyfrgell)
Mae llys yn Yr Aifft wedi cadarnhau’r ddedfryd o farwolaeth ar dros 180 o bobl gan gynnwys pennaeth mudiad Y Frawdoliaeth Fwslemaidd.

Dywedodd cyfreithwyr ar ran y rhai sydd wedi cael eu dedfrydu y byddan nhw’n apelio er eu bod wedi gwrthod ymddangos gerbron y llys ar 25 Mawrth mewn protest yn erbyn dedfryd o farwolaeth i gannoedd o bobl yn gynharach y mis hwnnw.

Ym mis Ebrill beth bynnag, fe wnaeth barnwr ddedfrydu cyfanswm o 693 o bobl i farwolaeth ar gyhuddiadau yn ymwneud â llofruddiaeth, terfysgaeth a thanselio’r llywodraeth filitaraidd.

Roedd arweinydd y Frawdoliaeth Mohammed Badie yn un o’r rhain.

Dyma’r dedfrydau sydd wedi cael eu cadarnhau heddiw ac mae nhw’n codi o ymosodiad ar orsaf yr heddlu yn ninas Minya yn ne’r Aifft ar ôl i’r heddlu chwalu protest Islamaidd yn Cairo, gan ladd cannoedd o brotestwyr.

Mae Crisition a dyn dall ymhlith y rhai sydd wedi eu dedfrydu heddiw yn ôl Mohammed Tossod ar ran tîm yr amddiffyniad.