Gwrthryfelwyr Isis yn anelu drylliau at filwyr Irac dros y penwythnos
Mae hyd at 450 o Brydeinwyr wedi ymuno a grŵp eithafol Islamaidd yn Irac ac fe allen nhw ymosod ar y DU, yn ôl pennaeth cudd-wybodaeth Llywodraeth Ranbarthol Cwrdistan.

Dywedodd Lahoor Talabani, cyfarwyddwr gwrthderfysgaeth y Llywodraeth (KRG), wrth Sky News, na ddylai’r ymosodiadau gan y grŵp Isis gael eu gweld fel ymosodiad ar Lywodraeth Irac yn unig.

Mae ei sylwadau’n ategu’r hyn ddywedodd y Prif Weinidog David Cameron ddoe pan rybuddiodd bod Isis yn cynllwynio ymosodiadau terfysgol ar y DU a bod gwrthryfelwyr sy’n dychwelyd o’r ymladd yn Irac a Syria yn peri mwy o fygythiad na’r rhai o Afghanistan.