Baghdad
Mae 40 o adeiladwyr Indiaidd sy’n gweithio yn Irac wedi cael eu cipio ger dinas Mosul.
Mae lle i gredu eu bod nhw’n gweithio i gwmni adeiladu o Dwrci.
Dydy’r herwgipwyr ddim wedi gofyn am arian i ryddhau’r gweithwyr.
Gweithwyr o Ogledd India yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw.
Mae hyd at 10,000 o Indiaid yn gweithio yn y wlad, gan gynnwys nyrsys yn ninas Tikrit sy’n gweithio i sefydliadau dyngarol.
Cafodd rhybudd ei gyhoeddi i’r nyrsys beidio teithio ar y ffyrdd ac mae llysgennad o India wedi teithio i Baghdad. Mae’r rhan fwyaf o’r nyrsys o Kerala yn ne India.
Mae gwrthryfelwyr wedi cipio nifer o drefi yn Irac dros y dyddiau diwethaf ond mae’r prif weinidog yn dweud bod lluoedd y llywodraeth wedi dechrau brwydro yn eu herbyn.