Alun Davies
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi croesawu cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am ddyfodol cynllun amgylcheddol Glastir, a’i bwriad i roi mwy o gymorth i ffermwyr sy’n byw ar dir uchel.

Cyhoeddodd y Gweinidog Bwyd ac Adnoddau Naturiol, Alun Davies, fod mwy o gyllid am gael ei roi i blannu coedwigoedd newydd ac i reoli afiechydon coed hefyd, er mwyn gwarchod adnoddau naturiol Cymru.

Mae’r FUW wedi estyn croeso i’r cyhoeddiad, ond mae Plaid Cymru wedi dweud fod rhai rhannau o’r cynllun –  sy’n digolledu ffermwyr am warchod yr amgylchedd – yn parhau i fod yn aneglur.

‘Niwlog’

Yn ôl Cadeirydd pwyllgor defnydd tir yr FUW, Gavin Williams: “Fe fydd cyflwyno hyblygrwydd i’r cynllun yn ei wneud yn fwy hygyrch i fwy o ffermwyr sydd wedi colli 15% o’u taliadau er mwyn talu am gynnal y Rhaglen Ddatblygu Wledig. Bydd pob rhan o gynllun Glastir rŵan yn annibynnol o’i gilydd.”

Er hyn, mae Plaid Cymru yn rhybuddio fod rhai adrannau o’r cynllun dal yn “niwlog”.

“Mae ffermio yn fusnes fel pob un arall, ac y mae ar ffermwyr Cymru angen cysondeb er mwyn trefnu eu busnes yn effeithiol. Mae’n anffodus fod y llywodraeth yn cynnwys ymrwymiadau mor niwlog fel cadw’r cynllun newydd-ddyfodiaid ‘am y tro’, sydd yn brin o roi i ffermwyr y sicrwydd yr oeddem yn chwilio amdano,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd, Llyr Gruffydd.

“Mae arnom angen eglurder hefyd ynghylch sefyllfa’r rhai sydd eisoes yn cymryd rhan yn Glastir a sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnyn nhw.

“Mae cynnig y Gweinidog i gyflwyno system gyllido a meini prawf mynediad wedi eu targedu yn mynd yn groes i’r sicrwydd a roes cyn hyn y bydd colledion i ffermwyr o daliadau Piler Un yn cael ei ailddosbarthu iddynt trwy Biler Dau. Mae ffermwyr wedi dioddef ergydion ariannol go galed dros y flwyddyn a aeth heibio, a bydd llawr o ffermwyr yn poeni y gall y Gweinidog fod yn ystyried cyfyngu mynediad i Glastir.”