Purfa olew Beiji, Irac
Mae gwrthryfelwyr Islamaidd wedi ymosod ar burfa olew fwyaf Irac, 155 o filltiroedd i’r gogledd o’r brifddinas Baghdad.

Roedd gwrthryfelwyr o’r grŵp eithafol Isis wedi dechrau’r ymosodiad neithiwr ac mae’n parhau bore ma, yn ôl swyddogion diogelwch yno.

Mae purfa  Beiji yn puro olew ar gyfer pethau fel petrol, olew ar gyfer coginio a thanwydd ar gyfer gorsafoedd pŵer.

Fe fyddai atal gwaith y burfa am gyfnod yn Beiji yn arwain at giwiau hir mewn gorsafoedd petrol, ac yn effeithio cyflenwadau trydan gan ychwanegu at yr anhrefn sydd eisoes yn wynebu Irac.

Yn y cyfamser, parhau mae’r ymladd rhwng lluoedd llywodraeth Irac a gwrthryfelwyr Isis yn ninas Tal Afar. Roedd Isis wedi meddiannu’r ddinas ddydd Llun.