Mae pedwar o bobol wedi cael eu cyhuddo yn dilyn ymosodiad ar dri swyddog yr heddlu ym Mrynmawr, Blaenau Gwent ddydd Llun.

Fe fydd  dyn 28 oed o Lyn Ebwy, dyn 24 oed o Frynmawr, dynes 24 oed o Nantyglo a dynes 28 oed o Frynmawr yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd y bore ‘ma, ar gyhuddiad o achosi ffrwgwd.

Cafodd y swyddogion eu galw i Sgwâr y Farchnad am 1 o’r gloch y bore, ar ôl adroddiadau bod lladrad yn digwydd yno. Wrth i’r swyddogion arestio’r rhai dan amheuaeth o’r drosedd, fe wnaeth criw o bobol nad oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad ymosod arnyn nhw.

Bu’n rhaid i’r tri swyddog dderbyn triniaeth yn Ysbyty Nevill Hall.

Mae dyn arall 31 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.