Cafodd 10 o bobl eu lladd yn dilyn ymosodiad drôn  yng ngogledd-ddwyrain Pacistan y bore ‘ma.

Yn ôl awdurdodau Pacistan, fe wnaeth dau ddrôn o America ollwng tri thaflegryn ar gampws y Fyddin yn nhref Ghulam Khan yng Ngogledd Waziristan.

Daw’r digwyddiad  oriau wedi ymosodiad arall yng Ngogledd Waziristan lle bu farw tri milwr.

Ac ar ddechrau’r wythnos cafodd 18 o bobol eu lladd wedi i ddynion arfog oedd wedi gwisgo fel swyddogion yr heddlu ymosod ar faes awyr prysuraf Pacistan.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau ar faes awyr rhyngwladol Jinnah yn ninas Karachi.