Yr Arlywydd Obama
Mae’r Arlywydd Obama wedi dweud ei fod yn teimlo “cywilydd” nad yw’r Unol Daleithiau wedi llwyddo i fynd i’r afael a pheryglon gynnau.

Daeth ei sylwadau ar ôl i ddyn arfog saethu myfyriwr 14 oed yn farw ac anafu athro mewn ysgol yn Oregon cyn saethu ei hun ddoe.

Daw’r digwyddiad diweddaraf wythnos ar ôl i ddyn arfog danio gwn mewn coleg yn nhalaith Washington, gan ladd dyn 19 oed ac anafu dau arall.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ddoe yn Ysgol Uwchradd Reynolds yn Troutdale, ger dinas Portland. Mae’r heddlu yno wedi cadarnhau mai’r myfyriwr Emilio Hoffman gafodd ei ladd.

Mae ymdrechion Barack Obama i gyflwyno rheoliadau llymach ynglŷn â phrynu gynnau wedi methu yn y Gyngres.

Oni bai bod agwedd pobl yn newid, meddai, “ni fydd pethau’n newid.”