Mae lleian ddaeth yn enwog am ganu fersiynau moel o ganeuon pop wedi ennill fersiwn Yr Eidal o raglen The Voice.

Daeth y Chwaer Cristina Scuccia i’r brig gyda 62% o’r bleidlais am ganu pum cân gan gynnwys ‘What a Feeling’ o’r ffilm Flashdance.

Ar ôl ennill fe ddywedodd y lleian 25 oed Weddi’r Arglwydd cyn gwahodd y gynulleidfa a’r beirniaid amheus i gydadrodd “Rydw i eisiau i’r Iesu ddod yma”.

Yn gynharach roedd y Chwaer Scuccia wedi canu ‘Girls Just Want To Have Fun’ gan Cyndi Lauper ar y rhaglen, a chael ei dewis gan feirniaid nad oedd yn medru ei gweld ar y pryd.