Mae myfyriwr Cymraeg o dde Cymru wedi creu’r fersiwn ddigidol gyntaf o’r camera ‘Diana’.

Mae Greg Dash, 26, o Aberpennar yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fe benderfynodd greu’r camera digidol – sy’n seiliedig ar gamera ‘Diana’ – er mwyn lansio ei gwmni, Cyclops Cameras.

Roedd y camera ‘Diana’ yn boblogaidd yn y 1960au ac mae’n caniatau i’r photograffydd dynnu lluniau ffocws meddal, retro.

Dim ond 1,000 o’r camerâu 12 megapicsel fydd ar gael, ac mae’r ymateb cadarnhaol i brosiect y Cymro eisoes wedi ei helpu i godi £11,000 er mwyn rhoi blaendal ar fwy o ddeunyddiau.

Llwyddiant

Roedd prosiect blaenorol Greg Dash hefyd yn llwyddiant mawr ar ôl iddo greu camera digidol o’r enw ‘Little Cyclops’ – camera bach tua dwy fodfedd o hyd.

“Dw i rŵan yn gobeithio fod y prosiect yma yn ailadrodd y llwyddiant hwnnw,” meddai.

“Fedra i ddim coelio’r ymateb sydd wedi bod hyd yn hyn, ac mewn llai na 48 awr dw i wedi codi digon o arian i roi blaendal ar y deunyddiau i greu mwy o gamerâu.”

Bydd y camera yn costio £65 ac mae Greg Dash yn gobeithio y bydd ar gael i’w brynu erbyn y Nadolig.