Mae’r Gweinidog Tramor William Hague wedi condemnio llofruddiaeth merch feichiog ym Mhacistan ar ôl i’w theulu daflu cerrig ati.
Dywedodd William Hague fod yr ymosodiad ar Farzana Parveen, 25, yn “arswydus” ac mae’n galw ar awdurdodau Pacistan i gosbi’r rhai sy’n gyfrifol.
Yn ôl heddlu’r wlad, bu bron i 20 aelod o deulu’r ferch yn ymosod arni hi a’i gŵr gyda cherrig a brics y tu allan i Lys Lahore, am fod y ferch ifanc wedi priodi yn groes i ddymuniadau ei theulu. Fe lwyddodd y gŵr i ddianc.
Dywedodd William Hague ei bod yn ofnadwy o greulon ac anghyfiawn bod merch wedi cael ei llofruddio am ddewis pwy i’w garu a’i briodi.
“Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn cychwyn dadl ar draws y byd am sut i atal arferion treisgar ac annioddefol yn erbyn merched mewn sawl rhan o’r byd,” meddai.