Mae ofnau fod dros 2,000 o bobl wedi cael eu lladd yn y tirlithriad anferth yng ngogledd-ddwyrain Afghanistan ddydd Gwener.
Gan nad oes obaith adfer y cyrff sydd wedi cael eu claddu o dan y mwd, mae’r awdurdodau yn y wlad wedi datgan safle’r tirlithriad yn nhalaith Badakhshan fel beddrod.
Mae timau dyngarol, gan gynnwys elusennau o Brydain, wedi bod wrthi’n trefnu gofal meddygol a chyflenwadau o ddŵr i blant ac oedolion sydd wedi colli eu teuluoedd a’u cartrefi.
Mewn talaith a oedd eisoes yn eithriadol o dlawd, yr ofnau yw y bydd trigolion lleol yn wynebu rhagor o dlodi, newyn a marwolaethau.
Y mwd marwol
Meddai Andrew Morris, pennaeth Unicef yn rhanbarth gogleddol Afghanistan:
“Mae hanner un pentref wedi cael ei gladdu’n gyfan gwbl yn y mwd. Mae hanner arall y pentref yn wag oherwydd bod pobl wedi dianc.
“Mewn pentref arall, mae pobl wedi symud oherwydd bod arnyn nhw ofn mwy o dirlithriadau. Felly mae anhrefn yma, a channoedd o bobl yn byw o dan bebyll.
“Brynhawn ddoe, daeth yr ymdrech i geisio achub pobl i ben. Mae’r holl le wedi cael ei ddatgan fel beddrod, gyda rhannau ohono o dan 50 metr o fwd.”
Ychwanegodd fod llawer o blant wedi cael eu gadael yn amddifad a llawer o deuluoedd wedi colli’r sawl a oedd yn ennill bywoliaeth.