Mae arweinydd Llafur, Ed Miliband, o dan bwysau gan 30 o ymgeiswyr seneddol i ymrwymo llywodraeth Lafur i ail-wladoli’r rheilffyrdd.
Mewn llythyr at bapur newydd yr Observer, dywed yr ymgeiswyr fod cwmnïau trenau’n ennill miliynau o bunnau bob blwyddyn ar draul £4 biliwn o fuddsoddiad cyhoeddus.
“Mae’r elw yma’n helpu cadw prisiau tocynnau i lawr ar y cyfandir gan fod llawer o wasanaethau rheilffyrdd Prydain yn cael eu rhedeg gan is-gwmnïau rheilffyrdd gwladol Ffrainc, yr Almaen a’r Iseldiroedd,” meddai’r ymgeiswyr yn y llythyr.
Maen nhw wedi cael cefnogaeth y cyn-ddirprwy Brif Weinidog John Prescott, sy’n dweud y dylai Ed Miliband gyhoeddi polisi o ail-wladoli’r rheilffordd yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn yr hydref.
Bydd 19 o’r 25 o’r cytundebau â chwmnïau trenau’n dod i ben yn ystod y pum mlynedd nesaf, a dywed John Prescott y dylai’r cytundebau fynd i ddwylo cyhoeddus fesul un wrth iddyn nhw ddod i ben.
Mewn ymateb, dywedodd Ed Miliband y byddai’r blaid yn edrych ar bob dewis posibl ar gyfer y rheilffyrdd.