Nigel Farage, arweinydd Ukip (llun: PA)
Mae’r arolwg barn diweddaraf yn dangos Ukip dri phwynt canran  ar y blaen i’r pleidiau eraill ym Mhrydain yn etholiad Ewrop ymhen ychydig dros bythefnos.

Yn ôl yr arolwg gan YouGov, mae 29% yn bwriadu cefnogi Ukip, o gymharu â 26% i Lafur, 23% i’r Ceidwadwyr a 10% i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae’r arolwg yn awgrymu y bydd y gefnogaeth i Ukip yn haneru yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf, fodd bynnag.

Mae’n dangos y gefnogaeth i Ukip ar 15%, ymhell y tu ôl i Lafur ar 36% a’r Ceidwadwyr ar 33%, ond ar y blaen i’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 10%.

Cafodd 1,844 o oedolion ledled Prydain eu holi rhwng Ebrill 30 a Mai 1 ar gyfer yr arolwg.