Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau’r pedwar fydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn Llanelli ym mis Awst.
Cafodd y pedwar eu dewis mewn diwrnod o gystadlu yn y Gerddi Botaneg Cenedlaethol yn Llanarthne ddoe.
Y pedwar yw:
- Nigel Annet – o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol ond sydd bellach yn Abersycir, rhwng Aberhonddu a Pontsenni. Bu’n rheolwr gyfarwyddwr i Dŵr Cymru, ac fel rhedwr llwyddiannus pan oedd yn ifanc, cafodd ei ddewis fel un o’r rhedwyr ar y traeth yn y ffilm enwog ‘Chariots of Fire’.
- Susan Carey – o Lundain yn wreiddiol, ond mae’n byw yn Nhrefdraeth, Sir Benfro ers bron i 30 mlynedd. Mae hi bellach yn ysgrifennydd y gangen leol o Merched y Wawr ac yn ysgrifennu colofn fisol i’w phapur bro, Clebran.
- Holly Cross – er iddi gael ei geni yng Nghaerfyrddin, symudodd y teulu i Wlad yr Haf pan oedd hi’n ddwy oed, a chafodd ei magu a’i haddysgu yn Lloegr. Dechreuodd ddysgu Cymraeg pan gafodd swydd yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac mae ni bellach yn byw yn Sir Benfro.
- Joella Price – o Port Talbot yn wreiddiol, ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers symud i Gaerdydd ddwy flynedd yn ôl wedi blynyddoedd o fyw yn America, Awstralia, Lloegr a Malta. Mae hi’n gweithio yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Prifysgol Cymru ac yn manteisio ar bob cyfle i siarad Cymraeg gyda chleifion.
Bydd rownd derfynol y gystadleuaeth ar Faes yr Eisteddfod yn Llanelli ddydd Mercher 6 Awst a bydd seremoni arbennig i wobrwyo’r enillydd y noson honno ym Mharc y Scarlets.