Mae cyfres o ffrwydradau ar drenau yn India a Tsieina wedi lladd pum person, ac mae dros 80 o bobol wedi cael eu hanafu rhwng y ddau ddigwyddiad.

Bu farw dynes mewn gorsaf drenau yn ne India, ac fe gafodd naw o bobol eu hanafu.

Mae’r heddlu yn y wlad yn credu bod y ffrwydradau wedi cael eu hachosi gan fomiau a gafodd eu gosod o dan seddi.

Digwyddodd y ffrwydradau ar drên yng ngorsaf Chennai, oedd i fod i deithio rhwng dinasoedd Bengaluru a Guwahati.

Roedd y ddynes gafodd ei lladd yn eistedd yn ei sedd ar y pryd.

Mae dau berson yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau difrifol.

Yn dilyn ffrwydradau mewn gorsaf yn Tsieina, ymosododd y sawl sy’n cael eu hamau o’r ymosodiad o ymosod ar deithwyr gyda chyllyll.

Cafodd tri o bobol eu lladd, a 79 eu hanafu yn y digwyddiad yn rhanbarth Xinjiang yng ngogledd y wlad.

Mae’r awdurdodau’n trin y digwyddiad fel ymosodiad terfysgol.

Digwyddodd yr ymosodiad yn dilyn ymweliad yr Arlywydd Xi Jinping â’r ardal lle mae ymosodiadau o’r fath ar gynnydd.

Yn ôl tystion yn yr ardal, digwyddodd dau ffrwydrad mewn gorsaf cyn i grŵp ymosodol fynd ar ôl teithwyr.

Dydy hi ddim yn glir eto sawl person sydd wedi cael eu harestio.

Cafodd teithiau yn y rhanbarth eu canslo am ychydig oriau’n dilyn y digwyddiad.