Jill Evans
Mae Jill Evans, Aelod Seneddol Ewropeaidd ar ran Plaid Cymru, wedi galw ar Gymru i greu mwy o swyddi ac anelu at gael economi sy’n talu gwell cyflogau.

Wrth siarad cyn diwrnod cenedlaethol y gweithiwyr heddiw, dywedodd Jill Evans na all economi Cymru fodloni ar swyddi rhan amser ar gyflogau isel.

Dywedodd y byddai polisi’r blaid yn creu 50,000 o swyddi newydd yng Nghymru a fyddai’n haneru nifer y bobol sy’n ddi-waith.

Sgiliau a chysylltiadau

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 102,000 o bobol yn chwilio am waith yng Nghymru.

“Byddai ein polisi hefyd yn gwella sgiliau, yn creu cysylltiadau masnachol gwell ac yn rhoi cymorth i fusnesau bach a chanolig ym mhob cwr o Gymru,” meddai Jill Evans.

“Mae Cymru wedi bod yn economi ar gyflogau isel ers gormod o amser ac wrth i’r economi ddechrau gwella o’r diwedd, nawr yw’r amser i anelu at gael pawb mewn gwaith.