Bashar Assad
Mae Bashar Assad wedi datgan y bydd yn ymgeisio yn etholiadau arlywyddol Syria.
Gwnaethpwyd y cyhoeddiad ar sianel deledu sy’n cael ei redeg gan y wladwriaeth. Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 3 Mehefin.
Mae’r Arlywydd Bashar Assad wedi rheoli’r wlad ers iddo olynu ei dad yn 2000. Roedd disgwyl iddo ymgeisio am ei drydydd tymor o saith mlynedd yn y swydd.
Mae hefyd yn debygol o ennill yr etholiad, er nad yw’n glir sut y gall yr etholiad gael ei gynnal mewn ardaloedd sy’n ganolbwynt i’r ymladd.
Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu’r etholiad, gan ddweud y bydd yn gwaethygu’r rhyfel cartref sydd wedi lladd dros 150,000 o bobl ac wedi gorfodi mwy nag un rhan o dair o’r boblogaeth y wlad i ffoi o’u cartrefi yn ystod tair blynedd o ymladd.
Bydd chwe ymgeisydd arall yn y ras, ond mae disgwyl iddyn nhw wneud hynny’n bennaf er mwyn rhoi’r argraff bod yr etholiad yn un cyfreithlon.