Yr heddlu ger y safle yn Wake Road, Sharrow
Mae pump o bobl, gan gynnwys babi naw wythnos oed a dau o blant ifanc, wedi marw mewn tân mewn tŷ yn Sheffield.

Credir bod Shabina Begum, 54, a’i merch Anum Parvaiz, 20 oed, hefyd wedi marw yn y tân mewn tŷ teras yn Wake Road, yn Sharrow.

Mae cefnder Shabina Begum, Ishfaq Hussain Kayani, wedi dweud bod y digwyddiad yn “drasiedi. Does dim geiriau i ddisgrifio pa mor drist yw hyn.”

Roedd merch fach naw wythnos oed ymhlith y rhai fu farw ynghyd a Adhyan Nazim, 9 oed, ac Amaan Nazim, 7 oed.

Fe ddechreuodd y tân toc wedi hanner nos a dywed Gwasanaeth Tân De Sir Efrog bod ymchwiliad wedi dechrau i geisio darganfod achos y tân.

Mae’n debyg bod Shabina Begum wedi llwyddo i ddianc o’r tŷ ond ei bod wedi marw ar ôl mynd yn ôl i geisio achub y plant.

Dywedodd Ishfaq Hussain Kayani bod tad y plant, Nazim Parvaiz, yn y gwaith pan ddechreuodd y tân a bod mam y plant, Razia Nazim, wedi goroesi a’i bod yn cael ei chysuro gan aelodau o’r teulu.