Y 'Seowl' wedi suddo. Llun: PA
Mae Arlywydd De Korea wedi dweud bod criw y llong fferi ‘Sewol’ suddodd dydd Mercher diwethaf gan adael 300 o bobl – llawer ohonyn nhw’n blant – yn farw neu ar goll, wedi ymddwyn yn anfaddeuol a bod eu hymateb pan ddechreuodd y llong suddo “gyfystyr â llofruddiaeth.”

Pan ddechreuodd y fferi droi drosodd, dywedodd y capten wrth y teithwyr am aros yn eu hystafelloedd gan beidio cyhoeddi cyngor i adael y llong am hanner awr.

Y capten a’r criw oedd y cyntaf i ddianc wedyn gan adael y teithwyr i ofalu am ei hunain.

Mae’r Arlywydd Park Geun-hye wedi cyhoeddi datganiad yn dweud bod hyn yn weithred “tu hwnt i bob dychymyg yn foesol ac yn gyfreithiol.”

Mae nifer o’r criw, gan gynnwys y capten a’r prif beiriannwr, bellach wedi cael eu harestio ar gyhuddiadau yn ymwneud â pheidio gwarchod y teithwyr.

Neges

Mae’r gwaith o godi’r cyrff o’r môr yn parhau. Mae 64 wedi cael eu codi hyd yma ac mae teuluoedd y rhai sydd ar goll yn aros ar ynys gerllaw ac yn feirniadol iawn o ymateb y llywodraeth i’r trychineb.

Fe wnaeth cant ohonyn nhw gychwyn cerdded taith o 250 milltir i gyflwyno eu cwynion i’r Arlywydd yn bersonol gan gerdded am chwe awr cyn iddyn nhw gael eu troi yn ôl gan yr heddlu.

Yn y cyfamser mae recordiad o’r sgyrsiau rhwng y criw a gwarchodwyr y glannau wrth i’r ‘Sewol’ gychwyn suddo wedi cael ei ryddhau.

Mae un gwyliwr i’w glywed yn crefu ar y criw i ddweud wrth y teithwyr am wisgo siacedi diogelwch a digon o ddillad tra bod aelod o’r criw yn gofyn fwy nag unwaith os y bydd y teithwyr yn cael eu hachub yn syth os y cawn nhw orchymyn i adael y llong.

“Dwi ddim yn siarad am hynna,” medd yr aelod o’r criw. “Mi wnês i ofyn os ydyn nhw’n gadael rwan, fedran nhw gael eu hachub yn syth?”

Mae’r gwyliwr yn ateb y buasai llongau patrol yn gallu cyrraedd o fewn 10 munud ond bod llong arall gerllaw allai achub unrhyw un oedd yn neidio oddi ar fwrdd y fferi.

‘Does neb yn gwybod hyd yn hyn beth achosodd i’r fferi suddo.