Vladimir Putin
Mae tri o filwyr sy’n cefnogi Rwsia wedi cael eu lladd a 13 arall wedi cael eu hanafu mewn ymosodiad yn nwyrain Wcrain dros nos, yn ôl gweinyddiaeth y wlad.

Fe wnaeth tua 300 o filwyr Rwsia ymosod ar safle Gwarchodlu Cenedlaethol yr Wcrain ym mhorthladd y Môr Du yn Mariupol. Fe wnaeth byddin yr Wcrain ymateb.

Ni chafodd milwyr o’r Wcrain eu hanafu, yn ôl y weinyddiaeth, ac fe gafodd 63 o filwyr eu cadw yn y ddalfa.

Daw’r ymosodiad wedi i lywodraeth yr Wcrain gyhoeddi eu bod am geisio ail-feddiannu Slovyansk a dinasoedd eraill yn y dwyrain.

Yn y cyfamser, mae swyddogion o’r Wcrain, yr Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd a Rwsia yn paratoi i gyfarfod yn Genefa i drafod yr argyfwng. Mae’r Arlywydd Putin wedi dweud ei fod yn credu y gall Rwsia a’r Wcrain ddod i gytundeb.