Un o awyrennau Malaysia Airlines
Mae awyrennau China ac Awstralia wedi gweld sawl gwrthrych yn yr ardal lle’r oedd lluniau lloeren wedi dangos gweddillion a allai fod yn rhan o awyren Malaysia Airlines.
Mae’r adroddiadau diweddara wedi codi gobeithion y gallai’r chwilio yng Nghefnfor India geisio datrys y dirgelwch am beth ddigwyddodd i’r Boeing 777.
Dywedodd Prif Weinidog Awstralia Tony Abbott bod y criw ar fwrdd awyren wedi gweld dau wrthrych yn y dŵr.
Roedd un o longau’r Llynges yn Awstralia wedi cael ei hanfon i’r safle nos Lun er mwyn ceisio dod o hyd i’r gwrthrychau a’u tynnu o’r dŵr.
Awstralia sy’n parhau i gydlynu’r chwilio am yr awyren a ddiflannodd ar 8 Mawrth gyda 239 o deithwyr ar ei bwrdd wrth deithio o Kuala Lumpur i Beijing.
Mae awyren China hefyd wedi gweld dau wrthrych sylweddol yn y dŵr a nifer o rai llai sydd wedi’u lledaenu dros ardal o sawl cilomedr, yn ôl adroddiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran gweinidog tramor China, Hong Lei ei bod hi’n “ras yn erbyn amser.”
Ond ychwanegodd: “Cyhyd a bod yna lygedyn o obaith fe fydd ein hymdrechion yn parhau.”
Mae teuluoedd y teithwyr oedd ar fwrdd yr awyren wedi bod yn dilyn y datblygiadau diweddaraf er mwyn ceisio darganfod beth yw tynged eu perthnasau.