David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain wedi galw am i’r Israeliaid a’r Palesteiniaid fod yn “bartneriaid tros heddwch”.

Mewn ymweliad deuddydd â’r Dwyrain Canol fe ddywedodd David Cameron y byddai’n rhaid i arweinwyr ar y ddwy ochr wneud penderfyniadau anodd er mwyn cael cytundeb … ond roedd hynny’n bosib, meddai.

Fe gadarnhaodd farn Llywodraeth Prydain fod angen i’r Palesteiniaid gael eu gwladwriaeth eu hunain ochr yn ochr ag Israel ddiogel.

Roedd yno’n rhannol i gefnogi ymdrechion heddwch Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry.

Ymosodiad

Fe amharwyd ar ei ymweliad ag ardal Balesteinaidd y Lan Orllewinol gan ymosodiad rocedi ar Israel o ardal gyfagos Gaza, a hynny’n arwain at ddial o’r awyr gan Israel.

Ac fe gafodd ei gondemnio gan rai Palesteiniaid hefyd am araith yn Jeriwsalem ddoe yn galw Israel yn “famwlad” i’r Israeliaid.