Mae prif weinidog Yr Wcrain yn mynnu na fydd ei wlad yn ildio “un centimedr” o’i thiroedd, gan gyfeirio at y Crimea.

Roedd Arseniy Yatsenyuk yn siarad mewn rali yn Kiev i ddathlu 200 mlwyddiant y bardd a’r cenedlaetholwr, Taras Shevchenko, ac meddai: “Dyma ein tir ni. Fe gollodd ein tadau a’n teidiau waed tros y tir hwn.

“A wnawn ni ddim ildio centimedr o dir Yr Wcrain,” meddai wedyn. “Gadewch i arlywydd Rwsia wybod hyn.”

Yna, fe gyhoeddodd Mr Yatsenyuk y bydd yn hedfan yn ddiweddarach yr wythnos hon i’r Unol Daleithiau i drafod sefyllfa’r Wcrain.

Mae ardal Crimea, penrhyn strategol yn ne Yr Wcrain, wedi dod yn ganolbwynt y frwydr sydd wedi para tri mis. Mae mwyafrif y boblogaeth yn Crimea yn uniaethu’n well gyda phobol Rwsia.

Yr wythnos hon, mae Rwsia wedi anfon mwy o luoedd i’r Crimea, ac mae’r arlywydd Vladimir Putin wedi gwrthod trafod gyda llywodraeth newydd Yr Wcrain.