Un o'r dynion arfog (Llun: PA)
Mae newyddion dryslyd am ymyrraeth filwrol wedi cynyddu’r tensiynau yn ardal y Crimea yng ngweriniaeth yr Wcrain.
Roedd adroddiadau bod tua 50 o ddynion arfog mewn lifrai Rwsiaidd wedi meddiannu maes awyr yn yr ardal, ond wedyn wedi gadael.
Roedden nhw mewn lifrai debyg i ddynion a feddiannodd rai o adaeiladau’r llywodraeth mewn dinas gyfagos ddoe.
O’r wybodaeth sydd wedi dod trwy asiantaeth Interfax, dyw hi ddim yn glir pwy oedd y dynion arfog ond mae pryderon cynyddol y gallai Rwsia ymyrryd yn y gwrthdaro mewnol yn yr Wcrain.
‘Goresgyn’
Mae un o weinidogion yr Wcrain wedi honni bod Rwsia’n ceisio goresgyn y wlad gan honni eu bod wedi meddiannu canolfan filwrol arall.
Ond mae Rwsia ei hun wedi cadarnhau wrth yr Unol Daleithiau y bydd yn parchu ‘inteegriti’ tiriogaeth yr Wcrain.
Mae’r Crimea’n draddodiadol agos at Rwsia ac yn ychwanegiad cymharol ddiweddar at yr Wcrain.
Mae Rwsia hefyd wedi rhoi lloches i gyn Arlywydd yr Wcrain Viktor Yanukovych sydd wedi gorfod ffoi ar ôl cyfres o brotestiadau.