Mae Kilauea, un o losgfynyddoedd mwyaf bywiog y byd, wedi dechrau poeri lafa unwaith eto.

Dywedodd gwyddonwyr fod fent newydd wedi agor ar ochor y mynydd tân, gan daflu lafa 65 troedfedd i fyny i’r awyr.

Dywedodd Arsyllfa Llosgfynyddoedd Hawaii bod y fent wedi agor ar ôl i lawr crater Pu’u O’o y mynydd chwalu tua 5pm ddydd Sadwrn.

“Mae’n gyffrous iawn gweld llosgfynydd yn ffrwydro o’r newydd,” meddai Janet Babb o’r arsyllfa. “Dyma beth ydyn ni yn disgwyl i’w weld.”

Mae Kilauea wedi bod yn ffrwydro am gyfnodau ers 3 Ionawr, 1983.

Cofnodwyd dros 150 o ddaeargrynfeydd bychan o fewn Kilauea o fewn y 24 awr ddiweddaraf.

Mae gwyddonwyr wedi rhybuddio y gallai’r fent ffrwydro neu chwalu heb unrhyw rybudd, ac wedi cynghori cerddwyr i gadw draw.

Dywedodd Janet Babb wrth bapur newydd y Hawaii Tribune-Herald bod y fent tua 535 llath o hyd a bod gwyddonwyr wedi bod draw i gael golwg arno.

Nid yw’n bygwth unrhyw gartrefi yn yr ardal.